Adref

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Blaenau Gwent yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Tîm Blynyddoedd Cynnar y Gwasanaethau Plant. Mae’r gwasanaeth yn darparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad diduedd am ddim i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ym Mlaenau Gwent.

 

Mae hyn yn cynnwys cyngor ar y canlynol:

> Darparwyr gofal plant cofrestredig

> Gyrfaoedd ym maes y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae

> Help gyda chostau gofal plant

> Grwpiau rhieni a phlant bach

> Digwyddiadau / gweithgareddau hamdden lleol sy’n addas i’r teulu

> Gwybodaeth am ardaloedd Dechrau’n Deg

 

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf sydd wedi’i rhannu gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

 

Dilynwch ni ar:

Facebook @ Blaenau Gwent Family Information Service

Instagram @Blaenau_Gwent_fis

X @FIS_BG

 

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Blaenau Gwent wedi’i leoli yn y Ganolfan Integredig i Blant, Stryd Fawr, Blaenau, Blaenau Gwent, NP13 3BN.

Gallwch ein ffonio ar 01495 369610. Bydd rhywun ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau (9am – 5pm) a dydd Gwener (9am – 4pm). Fel arall, gallwch e-bostio FIS@Blaenau-Gwent.gov.uk neu anfon neges atom trwy un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae gwasanaeth peiriant ateb hefyd ar gael ar gyfer gwasanaeth y tu allan i oriau. Os byddwch chi’n gadael eich enw a’ch rhif, bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl.