Amdanon

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Blaenau Gwent yn darparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad arbenigol a diduedd am ddim i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau lleol a chenedlaethol fel:

> Darparwyr gofal plant cofrestredig
> Gyrfaoedd ym maes y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae
> Help gyda chostau gofal plant
> Grwpiau rhieni a phlant bach
> Digwyddiadau / gweithgareddau hamdden lleol sy’n addas i’r teulu
> Gwybodaeth am ardaloedd Dechrau’n Deg

Gallwn hefyd helpu rhieni/gofalwyr i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau cymorth neu sefydliadau yn seiliedig ar eu hanghenion penodol.

Edrychwch ar ein hadran Cwestiynau Cyffredin am rai o’r cwestiynau cyffredin rydyn ni’n delio â nhw!