Beth rydym yn ei gynnig

Mae Hwb Cymorth Teuluoedd Blaenau Gwent yn darparu cyngor, gwybodaeth a chanllawiau am ddim ac yn ddi-duedd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau lleol a chenedlaethol megis:

 

> Darparwyr gofal plant cofrestredig

> Gyrfaoedd ym maes y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae

> Help gyda chostau gofal plant

> Grwpiau rhieni a phlant bach

> Digwyddiadau / gweithgareddau hamdden lleol sy’n addas i’r teulu

> Gwybodaeth am ardaloedd Dechrau’n Deg

> Teuluoedd yn Gyntaf

> Adnoddau a Gwasanaethau i Gefnogi eich Teulu

 

Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol:

   

 

Cysylltwch â ni

Gallwch ein ffonio ar 01495 369610.

Bydd rhywun ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau (9am – 5pm) a dydd Gwener (9am – 4pm).

Fel arall, gallwch e-bostio FIS@Blaenau-Gwent.gov.uk neu anfon neges atom trwy un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Blaenau Gwent wedi’i leoli yn y Ganolfan Integredig i Blant, Stryd Fawr, Blaenau, Blaenau Gwent, NP13 3BN.