Cwestiynnau Cyffredin

Pa gymorth sydd ar gael i’m helpu i dalu am ofal plant?

Mae ychydig o gynlluniau gwahanol a gynhelir gan y llywodraeth i’ch helpu chi i dalu am ofal plant i’ch rhai bach!

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth ar ein gwefan – dilynwch y dolenni hyn:

 

Pa fudd-daliadau ydw i’n gymwys i’w cael ar ôl cael plant?

Gallwch ddarganfod pa fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w cael trwy ddefnyddio’r Gyfrifiannell Budd-daliadau ar-lein. Os oes angen i chi siarad â rhywun am wneud cais am fudd-daliadau neu drafod y budd-daliadau rydych yn eu derbyn ar hyn o bryd, gallwch gysylltu â’r tîm Budd-daliadau ar x. Yn ogystal, gallwch hefyd siarad â Llinell Gymorth Budd-daliadau Cyngor ar Bopeth ar x.

 

Sut mae darganfod a ydw i mewn ardal Dechrau’n Deg?

Bydd angen i chi anfon e-bost. Rhowch wybod i ni eich enw a’ch cyfeiriad llawn ac enw eich plentyn bach a’i ddyddiad geni. Fel arall, gallwch ein ffonio ar

 

Pryd mae angen i mi wneud cais am le mewn meithrin neu ddosbarth derbyn?

Gall eich plentyn bach ddechrau meithrin ar ôl y tymor y mae’n troi’n dair oed. Edrychwch ar dudalen Facebook y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am ragor o wybodaeth am ddyddiadau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynghylch derbyniadau i ysgolion, gallwch anfon e-bost at X neu ffonio

 

Pa grwpiau rhieni a phlant bach sydd yn fy ardal i?

Edrychwch ar ein hadran ar grwpiau rhieni a phlant bach ar ein gwefan!

 

Beth os oes gennyf bryderon am blentyn?

Os oes gennych bryderon diogelu am blentyn, gallwch roi gwybod amdanynt yma neu ffonio ein tîm Gwybodaeth a Chyngor ar x a dewis opsiwn 2 ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant.

 

Sut gallaf siarad â rhywun yn Teuluoedd yn Gyntaf?

I siarad â Theuluoedd yn Gyntaf, gallwch ffonio x a gofyn am gael siarad â Theuluoedd yn Gyntaf. Yna cewch eich trosglwyddo i’w tîm.

 

Sut mae dod o hyd i ofal plant yn fy ardal a beth yw’r opsiynau?

Edrychwch ar ein hadran ar wahanol fathau o ofal plant! Gallwch hefyd ddod o hyd yma i restr o’r holl ddarparwyr gofal plant a gwarchodwyr plant ym Mlaenau Gwent. Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, mae croeso i chi roi galwad i ni ar x.

Sut mae gwneud cais am Ddarpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen ym Mlaenau Gwent?

Cysylltwch â’r Adran Addysg ar x neu e-bostiwch hi yn x

 

Beth allaf ei ddisgwyl pan fyddaf yn cysylltu â’r gwasanaeth?

Pan fyddwch yn cysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, byddwch yn derbyn gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol a bydd eich ymholiad yn cael ei drin yn gyfrinachol. Gwnawn ein gorau i ateb eich holl gwestiynau a darparu unrhyw gyhoeddiadau a gwybodaeth ddefnyddiol i chi. Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill a allai eich cefnogi os oes angen rhagor o help arnoch.