Newyddion Da

Hydref 2024

Rhif ffôn Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd newydd!

Tachwedd 2024

Wythnos Dysgu Oedolion 

Mae ein tîm Lluosi wedi bod yn hynod o brysur dros y misoedd diwethaf. Yn ystod tymor yr haf, cynigiwyd ystod o gyrsiau ar draws y fwrdeistref. Roedd hyn yn cynnwys eu cwrs DIY newydd sbon yn ogystal â chwrs coginio newydd gan Agored Cymru – sy’n golygu bod ein cyfranogwyr anhygoel wedi cyflawni’r camau cyntaf at gymhwyster!

 

Hoffem hefyd eich cyflwyno i Beyzanur! Mae Beyzanur yn un o’n cyfranogwyr anhygoel ac wedi cwblhau dau gwrs gyda ni hyd yn hyn! Dechreuodd ar ein cwrs ‘Camau Cyntaf at Saesneg’ ac yna aeth ymlaen i gwblhau ein ‘Mesur ar gyfer Coginio’, lle enillodd hefyd ran o gymhwyster Agored.

 

Edrychwch ar yr hyn oedd gan Beyzanur i’w ddweud isod:

Haf o Chwarae

Ar 7 Awst 2024, croesawodd ein tîm chwarae gwych dros fil o bobl i Dŷ a Pharc Bedwellte ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Cynhaliodd y tîm chwarae ddigwyddiad anhygoel gyda chwarae blêr, llithro a sleidio, celf a chrefft, Wild Tots, a llawer mwy! Ymunodd rhai gwasanaethau anhygoel â ni hefyd a oedd yn gallu hyrwyddo eu hunain o fewn y gymuned. Rydym hefyd am ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad gan na fyddai’r digwyddiadau hyn yn bosibl heb yr holl bobl sy’n eu cefnogi.

 

Ochr yn ochr â Diwrnod Chwarae, mae ein tîm chwarae wedi bod yn hynod o brysur gyda llawer o sesiynau chwarae eraill! Drwy gydol yr haf, cyflwynodd ein tîm (gan gynnwys 20 o wirfoddolwyr chwarae) raglen chwarae chwe wythnos yn ystod gwyliau’r haf. Yn syfrdanol, roedd hon yn cynnwys 41 o sesiynau chwarae mynediad agored ac 11 sesiwn Wild Tots ar draws 13 lleoliad gwahanol ym Mlaenau Gwent! Roedd y tîm chwarae hefyd yn gallu darparu amrywiaeth o fyrbrydau ym mhob sesiwn, gan gynnwys brechdanau, ffrwythau ffres, bariau grawnfwyd a dŵr potel. Roeddent hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau yn y sesiynau hyn, gan gynnwys sesiynau thema gyda gemau, celf a chrefft, chwarae tywod a dŵr, chwarae anniben, maes chwarae dychymyg, a chwaraeon.

 

Yn olaf, rydym eisiau dweud diolch enfawr i’n gwirfoddolwyr chwarae anhygoel. Ni fyddem yn gallu cynnal cymaint o sesiynau anhygoel dros yr haf heb i’r bobl anhygoel hyn roi o’u hamser eu hunain!

 

Teuluoedd yn Gyntaf Cylchlythrau - Hydref 2024

 

Mehefin 2024

Ymgyrch Bwydo ar y Fron 2024

Eleni, mae ein timau anhygoel wedi lansio ymgyrch bwydo ar y fron i annog a chefnogi mwy o famau i fwydo ar y fron!

 

Dechreuodd ymgyrch eleni yng Nghwm gydag ymweliad gan y bersonoliaeth deledu a phencampwr bwydo ar y fron Ferne McCann! Cyfarfu Ferne â mamau yn y ganolfan Dechrau’n Deg leol i dynnu sylw at fanteision bwydo ar y fron.

 

Roedd gan Ferne hyn i’w ddweud am ei hymweliad â Chwm:

‘Roedd yn bleser pur ymweld â Chwm heddiw i gefnogi lansiad ymgyrch Bwydo ar y Fron Blaenau Gwent.

Mae yna lawer o resymau pam mae rhai mamau yn dewis peidio â bwydo ar y fron, ond mae’n ymddangos mai un o’r rhesymau mwyaf yw diffyg cefnogaeth a hyder. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog mamau ifanc ym Mlaenau Gwent i gael y cymorth cywir i oresgyn un o’r rhwystrau mwyaf i famau sydd am roi cynnig arni – diffyg cefnogaeth.

Mae cymaint i’w lywio pan ddechreuwch ar eich taith bwydo ar y fron ond, ar yr ochr arall mae llawenydd pur, cyfleustra a’r manteision iechyd gwych ac rwy’n siŵr y bydd yr ymgyrch hon yn dod â’r buddion hyn yn fyw.’

 

Cafodd Cwm sylw ar bennod My Family & Me gan Ferne McCann ym mis Ebrill. Gallwch ddal i fyny ar bob pennod ar ITVx nawr!

 

Ond pam mae’r ymgyrch hon mor bwysig?

 

Mae gan Flaenau Gwent un o’r cyfraddau bwydo ar y fron isaf o gymharu â gweddill Cymru a’r DU. Mae’r ymgyrch ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn canolbwyntio ar gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron. Nododd arolwg bwydo babanod diweddar rai o’r rhwystrau cyffredin i fwydo ar y fron a bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i hysbysu mamau a darpar famau a dargedwyd gan y strategaeth a’r ymgyrch eleni yn well.

Mae llawer o fanteision i fwydo ar y fron hefyd! I famau, mae’n lleihau’r risg o ganser yr ofari a’r fron, diabetes, a chlefyd y galon. Mae manteision iechyd i fabanod hefyd gan ei fod yn lleihau’r risg o rai heintiau cyffredin fel heintiau’r glust a heintiau anadlol a gastroberfeddol, yn ogystal â lleihau rhai o’r risgiau o fod dros bwysau ac yn ordew. Mae hefyd yn helpu i leihau risgiau eraill fel syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS), diabetes math 1 ac asthma.

 

Mantais fawr arall bwydo ar y fron yw ei fod yn rhad ac am ddim! Gall gostio rhwng £33 ac £80 y mis i fwydo’ch un bach ar fformiwla yn unig. Mae bwydo ar y fron hefyd yn helpu i greu perthynas ac ymlyniad rhwng y fam a’r babi, sy’n hybu datblygiad yr ymennydd a rheolaeth emosiynol y baban.

 

Ar hyn o bryd, mae dau grŵp bwydo ymatebol ym Mlaenau Gwent y gallwch eu mynychu i helpu i’ch cefnogi gyda’ch taith fwydo. Gall y grwpiau hyn roi cyngor cyfeillgar i chi ar fwydo’ch babi a chyfle i gwrdd â mamau newydd a darpar famau yn yr ardal.

 

Dydd Llun @ Canolfan Lechyd a Lles Bevan

10am – 12pm (yn ystod y tymor yn unig)

 

Dydd Mawrth yng Nghanolfan Pen-y-bryn, Bryn-teg

9.30am – 11am (yn ystod y tymor yn unig)

 

Dydd Mercher yng Nghanolfan Integredig i Blant Blaenau

9.30am – 11am (yn ystod y tymor yn unig)

 

Dydd Iau @ Hwb Dechrau'n Deg Swffryd

1pm – 3pm (yn ystod y tymor yn unig)

 

 

Wythnos Bwyta'n Iach 2024 - 10.06.2024 - 14.06.2024

 

Mai 2024

Teuluoedd yn Gyntaf Cylchlythyr - 09.05.2024

 

Teulu Cymru

Ym mis Ebrill, lansiodd Llywodraeth Cymru Teulu Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn dod â’r holl brif ymgyrchoedd gofal plant a magu plant o dan yr un to! Yma gallwch ddod o hyd i ymgyrchoedd fel dysgu siarad, awgrymiadau ar fagu plant, cosb gorfforol a’r gyfraith, a lles teuluol!

 

Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at rieni, gofalwyr a theuluoedd sydd â phlant rhwng 0 a 18 oed ac mae’n cyfeirio teuluoedd at wasanaethau a gwybodaeth iddynt.

 

Gallwch ei ddilyn ar-lein yma:

www.instagram.com/teulu.cymru

www.facebook.com/teulucymruwales

 

Parti Bwmp

Ar 24 Ebrill, cynhaliodd ein tîm Dechrau’n Deg anhygoel barti bwmp i bob darpar fam ym Mlaenau Gwent. Mynychwyd y digwyddiad hefyd gennym ni yn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Mudiad Meithrin, Lluosi, ymwelwyr iechyd, Mini Movers, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, Teuluoedd yn Gyntaf, a llawer mwy!

Roedd y mamau beichiog yn gallu cael gwybod am lawer o’r gwasanaethau ar draws Blaenau Gwent a chwrdd â llawer o aelodau tîm Dechrau’n Deg! Roedd y darpar famau hefyd yn gallu gwylio cyflwyniad anhygoel am esgor a geni. Roedd y tîm eisiau trosglwyddo eu diolch i bawb a fynychodd y digwyddiad ac a helpodd i’w wneud yn llwyddiant.

Oeddech chi’n gwybod bod gan bob darpar fam ym Mlaenau Gwent hawl i gymorth yn ystod ei beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth ei babi? Mae Catherine Davies a Tracy Thompson ill dau yn weithwyr cymorth cyn geni i deuluoedd a gallant gynnig cymorth ac arweiniad yn ystod beichiogrwydd. Gallant hefyd roi cyngor a chymorth ar ddod yn rhiant newydd, bwydo babanod, bwydo ar y fron, materion tai, bwyta’n iach a chyllidebu! Os teimlwch fod angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod eich taith beichiogrwydd, mae croeso i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Gallwch ein ffonio ar 0800 032 3339 neu anfon e-bost atom yn FIS@Blaenau-Gwent.gov.uk.

 

 

Tîm Chwarae

Mae ein tîm chwarae wedi bod yn gweithio’n galed iawn y tymor hwn. Cynhaliwyd pum sesiwn chwarae yn y parc dros wyliau’r Pasg a digwyddiad chwarae enfawr yng Nghanolfan Integredig i Blant Blaenau, ac maent wedi bod yn cynnal eu grwpiau Wild Tots bob wythnos!

 

Dyma rai o’r adborth gwych gan y teuluoedd a fynychodd:

‘Mae’r digwyddiad hwn dros y Pasg yn wych. Digwyddiad rhad ac am ddim gwych i’r plant. Diolch, tîm chwarae.’

‘Mae fy mhlentyn mor hapus. Diolch am y gweithgareddau a ddarparwyd – roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan.’

‘Rydych chi bob amser yn mynd gam ymhellach yn y Ganolfan Integredig i Blant. Roedd y strafagansa Nadolig yr un mor hudolus. Felly penderfynon ni ddod yn ôl ar gyfer y Pasg hefyd.’

‘Mae’r tîm chwarae bob amser yn gwneud i’r plant i gyd deimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu cynnwys.’

‘Rydym mor ddiolchgar am y digwyddiad rhad ac am ddim hwn gan ein bod yn deulu mawr ac mae pethau’n costio llawer o arian, yn enwedig os oes gennych fwy nag un plentyn.’

‘Mae’r tîm bob amser mor hapus ac yn llawn brwdfrydedd dros chwarae – pe bawn i’n gallu potelu rhywfaint o’r egni yna!’

 

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i fod y cyntaf i wybod am y digwyddiadau sydd i ddod!

 

Mawrth 2024

Dydd Gŵyl Dewi - 01.03.24

Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein cystadlaethau! Rydym mor falch o bawb a gymerodd ran! Welwn ni chi i gyd eto y flwyddyn nesaf.

Diwrnod y Llyfr - 07.03.24

Awdur y Diwrnod! 

Fy Rhifau Cyntaf gyda Lluosi @ Nghanolfan Dechrau'n Deg Swffryd - 19.03.24

Mae’r Prosiect Lluosi wedi cwblhau ei wythnos olaf gyda’r grŵp presennol yng Nghanolfan Dechrau’n Deg Swffryd. Dros y pum wythnos ddiwethaf, rydym wedi gwneud llawer o weithgareddau, pob un yn ymwneud â llyfrau plant bendigedig, gan gynnwys Y Lindysen Lwglyd Iawn 🐛 , Mynd ar Helfa Arth 🐻, Elen Benfelen a’r Tair Arth 👱 ️, Beth Nesaf? 🚀 a Lliwiau Elfed 🐘.

Rydyn ni wedi edrych ar Ddyddiau'r Wythnos, Cyfrif, Iaith Leoliadol, Cymharu Maint, Siâp a Lliwiau ac wedi dysgu llawer o sgiliau eraill ar hyd y ffordd!
Bydd ein bloc nesaf o Fy Rhifau Cyntaf yn dechrau ar 9 Ebrill am 1pm ar gyfer plant 3-4 oed (am chwe wythnos).
Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio straeon a chwarae i annog geirfa a sgiliau mathemategol gyda'ch plant!

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael!!!

Fy Rhifau Cyntaf gyda Lluosi @ Nghanolfan Dechrau'n Deg Hilltop - 21.03.24

Mae’r Prosiect Lluosi wedi cwblhau ei wythnos olaf gyda’r grŵp presennol yng Nghanolfan Dechrau’n Deg Hilltop.

Dros y pum wythnos ddiwethaf, rydym wedi gwneud llawer o weithgareddau, pob un yn ymwneud â llyfrau plant bendigedig, gan gynnwys Y Lindysen Lwglyd Iawn 🐛 , Mynd ar Helfa Arth 🐻, Elen Benfelen a’r Tair Arth 👱 ️, Beth Nesaf? 🚀 a Lliwiau Elfed 🐘.

Rydyn ni wedi edrych ar Ddyddiau'r Wythnos, Cyfrif, Iaith Leoliadol, Cymharu Maint, Siâp a Lliwiau ac wedi dysgu llawer o sgiliau eraill ar hyd y ffordd!

 

Chwefror 2024

Diwrnod Canser y Byd - 04.02.2024

Cynhaliodd tîm y Ganolfan Integredig i Blant arwerthiant pobi i godi arian i Cancer Research UK a llwyddodd i godi dros £110.

Hanner Tymore Chwefror - 12.02.24 - 16.02.24

Dros wythnos hanner tymor, gweithiodd ein tîm chwarae anhygoel yn galed iawn i gynnal sesiynau chwarae ar draws Blaenau Gwent! Diolch i bawb a fynychodd!