Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol

Fel awdurdod lleol, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i blant cyn oed ysgol sydd ag anghenion ychwanegol. Rydym yn cydnabod bod ymyrraeth gynnar yn hanfodol i sicrhau bod y plant hyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. I’r perwyl hwn, rydym yn trafod anghenion cymorth plentyn mewn cyfarfod o Banel Cymorth Anghenion Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar. Mae’r panel yn cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, megis ymwelwyr iechyd, seicolegwyr addysg, arbenigwyr yn yr awdurdod lleol, ac athrawon ymgynghorol.

 

Gall y cymorth y cytunir arno ar gyfer plant gynnwys rhywfaint o gymorth staffio ychwanegol ar gyfer plant 2-3 oed i hybu parodrwydd ar gyfer yr ysgol (ac ar gyfer plant 3-4 oed os yw’r plentyn yn derbyn y Cynnig Gofal Plant), offer/adnoddau i gefnogi anghenion corfforol a datblygiadol plant, neu hyfforddiant i staff. Darperir cymorth staffio gan ymarferwyr gofal plant medrus sy’n gweithio gyda phlant ar sail unigol neu grŵp bach am ychydig oriau’r wythnos, gyda’r nod o wella eu hanghenion unigol a lleihau faint o gymorth y gallai fod ei angen arnynt yn yr ysgol.

 

Rydym yn teilwra ein cymorth yn unol â’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru, ac rydym yn datblygu cynlluniau cymorth unigol a elwir yn gynlluniau sy’n canolbwyntio ar unigolion. Mae’r rhain yn cynnwys targedau CAMPUS sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd. Mae ein swyddog cymorth anghenion ychwanegol hefyd yn cynnig ymweliadau â chartrefi a lleoliadau i gynnig arweiniad a chyngor i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cymorth gorau posibl.

 

Gwasanaethau ar Gael i Deuluoedd

 

Sparkle

 

Camau Bach

 

Shine