Camau Bach
Mae Camau Bach yn grŵp cymorth sy’n cael ei redeg gan y tîm Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg ar gyfer rhieni a gofalwyr plant ag anabledd.
Mae’r grŵp hwn yn agored i rieni a gofalwyr y mae eu plentyn/plant wedi cael diagnosis neu sy’n mynd drwy broses niwroddatblygiadol ISCAN/SPACE ar hyn o bryd.
Rydym wedi cael adborth anhygoel gan y teuluoedd a fynychodd y sesiwn hon. Mae wedi rhoi’r cyfle i lawer o bobl gysylltu â’r rhai sydd â phrofiadau tebyg yn ogystal â chael cyngor arbenigol gan ein tîm a siaradwyr gwadd.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y grŵp, ffoniwch ni ar: 01495 369621