Sparkle

Mae Sparkle yn elusen yng Ngwent sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ag anableddau ac anawsterau datblygu. Fel rhan o’i chenhadaeth, mae hefyd yn anelu at gefnogi teuluoedd a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu ymgysylltu â phrofiadau plentyndod gwerthfawr yn ogystal â chael mynediad at yr un ystod o weithgareddau, profiadau a chyfleoedd â theuluoedd eraill. 

 

Os oes gennych blentyn neu unigolyn ifanc sydd wedi cael diagnosis o anabledd neu anhawster datblygiadol, neu’n cael asesiad ar eu cyfer, gallwch gysylltu â’r Swyddog Cyswllt â Theuluoedd am gymorth. Gall y Swyddog Cyswllt â Theuluoedd gynnig amrywiaeth o ganllawiau, cymorth ac adnoddau. Mae hefyd yn cynllunio ac yn cydlynu digwyddiadau i gefnogi teuluoedd yn yr ardal leol.

 

I gael gwybod mwy am y Swyddog Cyswllt â Theuluoedd, cliciwch yma.

 

Os hoffech gysylltu â Swyddog Cyswllt â Theulueodd Blaenau Gwent, gallwch gysylltu â Sarah ar 01873 733176. Fel arall, gallwch anfon e-bost ati yn: abb.familyliaisonnorth@wales.nhs.uk.

 

Mae Sparkle hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ym Mlaenau Gwent:

Clwb ieuenctid

Clwb chwarae

Gwersi nofio

Nofio i’r teulu

MediCinema

 

I gael mynediad at y gweithgareddau hyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen atgyfeirio. Gallwch ddod o hyd i gopi o honno yma.

 

Cwestiynau cyffredin

 

Mae Sparkle wedi creu rhestr helaeth o gwestiynau cyffredin ar gyfer teuluoedd sy’n mynd drwy broses ISCAN (Gwasanaeth Integredig ar gyfer Plant ag Anghenion Ychwanegol) neu sy’n cefnogi rhywun yn eu teulu ag anabledd neu anhawster datblygiadol. Cliciwch yma i gael gweld!