Bwyta’n dda
Mae deiet cytbwys yn bwysig i bawb ond, yn arbennig, mae’n cefnogi twf a datblygiad iach mewn plant. Mae hefyd yn helpu wrth wella o salwch neu anaf.
Mae annog eich plentyn i fwyta amrywiaeth eang o fwydydd yn dylanwadu ar arferion bwyd iach pan fyddant yn hŷn.
Mae’n bwysig cofio nad oes bwydydd da na drwg. Cydbwysedd cyffredinol deiet yw’r hyn sy’n cyfrif a chael y cyfrannau cywir.
Fodd bynnag, mae rhai bwydydd yn fwy tebygol o gyfrannu at iechyd nag eraill.
Mae GIG Cymru yn darparu amrywiaeth o gyngor ar fwyta’n dda, gan gynnwys ‘Canllaw Bwyta’n Dda’.
Edrychwch ar yr awgrymiadau hyn i’ch helpu chi a’ch teulu i fwyta’n dda!
Bwytewch/yfwch bum dogn o ffrwythau a llysiau’r dydd.
Bwytewch/yfwch dri dogn o fwydydd llaeth a bwydydd amgen y dydd.
Ceisiwch fwyta o leiaf ddau ddogn o brotein bob dydd (tri os ydych chi’n llysieuwr).
Osgowch fwyta llawer iawn o fwyd sydd â lefelau uchel o siwgr neu fraster.
Cofiwch yfed! Argymhellir yfed rhwng chwech ac wyth gwydraid o hylif bob dydd. Mae hyn yn cynnwys: dŵr, llaeth, te a choffi (i oedolion).
Am ragor o wybodaeth ac am fwy o awgrymiadau ar gefnogi iechyd eich teulu, ewch i Iechyd Gwell, Teuluoedd Iachach.