Cymorth iechyd meddwl
Dewch o hyd i amrywiaeth o adnoddau iechyd meddwl i oedolion a phlant yma:
Meic For Young People & Children
Mae Meic yn llinell gymorth i blant a phobl ifanc.
Gallwch eu ffonio neu anfon neges WhatsApp atynt ar 080 880 23456.
Maen nhw ar agor o 8am tan hanner nos bob dydd.
Gall plant 11-19 oed gysylltu â thîm nyrsio’r ysgol am gymorth a chyngor cyfrinachol.
Gallwch anfon neges destun atynt ar 07312 263 262.
Bydd negeseuon testun yn cael eu hateb o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30am a 4.30pm.
Mae The Mix yn darparu cymorth iechyd meddwl hanfodol i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Tecstiwch ‘THEMIX’ I 85258 am gymorth.
Campaign Against Living Miserably.
Mae CALM yn rhedeg llinell gymorth atal hunanladdiad i gefnogi pobl mewn angen. Gallwch ffonio os ydych chi’n cael trafferth eich hun, os ydych wedi colli rhywun i hunanladdiad neu os ydych chi’n poeni am rywun.
Mae’r llinell gymorth ar agor o 5pm tan hanner nos bob dydd.
Ffoniwch 0800 58 58 58.
Ar Agor i Unrhyw Un
Mae llinell gymorth C.A.L.L. yn cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth am iechyd meddwl. Gall llinell gymorth C.A.L.L. gefnogi unrhyw un sydd angen cymorth gyda’i iechyd meddwl ei hun neu sy’n poeni am iechyd meddwl rhywun arall.
Gallwch ffonio’r llinell gymorth ar 0800 132 737, 24 awr y dydd.
Ar Agor i Unrhyw Un
Mae’r Samariaid yn cynnig llinell gymorth am ddim i gefnogi unrhyw un sy’n cael trafferth.
Gallwch eu ffonio unrhyw bryd ar 116 123.
Os yw’n well gennych, gallwch hefyd anfon e-bost atynt yn jo@samaritans.org (gall gymryd ychydig ddyddiau i dderbyn ymateb).
Ar Agor i Unrhyw Un