Halen

Oeddech chi’n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl yn bwyta gormod o halen bob dydd?

 

Argymhellir nad yw oedolion yn bwyta mwy na 6 gram o halen – mae hyn yn llai nag un llwy de!

 

Edrychwch ar y bwydydd hyn a all gynnwys llawer o halen:

Selsig

Bacwn

Creision

Teisennau crwst

Pizza

Caws

Grefi

Cetshyp

Saws soi

Cawl parod

Llenwadau brechdanau wedi’u prosesu

 

Sut allwch chi leihau’r halen rydych chi’n ei fwyta?

Cyfnewidiwch y byrbryd hallt am fyrbrydau cartref! Am syniadau ar gyfer byrbrydau, cliciwch yma!

Lleihewch faint o saws rydych chi’n ei fwyta, neu prynwch y fersiynau halen is.

Coginiwch o’r dechrau cymaint ag y gallwch. Gall llenwadau brechdanau wedi’u prosesu, prydau parod, tecawês a hyd yn oed cawl tun gynnwys llawer o halen!

Os ydych chi’n cadw ysgwydwr halen ar y bwrdd, rhowch ef yn ôl yn y cwpwrdd! Rhowch gynnig ar ychwanegu blas gan ddefnyddio perlysiau neu sbeisys yn lle!

 

Am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod faint o halen y dylai eich plentyn fod yn ei fwyta – CLICIWCH YMA!