Siwgr

Oeddech chi’n gwybod bod llawer o blant yn cael dros ddwywaith yn fwy o siwgr nag a argymhellir ar eu cyfer?

 

Gall gwneud dewisiadau iachach fod yn heriol i rieni. Edrychwch ar yr wybodaeth isod i’ch helpu i wneud y dewisiadau hynny.

 

Pam mae angen i ni boeni am siwgr?

Gall gormod o siwgr fod yn niweidiol i iechyd plant. Gall arwain at fraster niweidiol yn cronni ar y tu mewn. Gall hyn arwain at ennill pwysau, clefyd y galon, canserau, a chlefydau fel diabetes math 2.

 

Gall bwyta gormod o siwgr hefyd arwain at bydredd dannedd.

 

Faint o siwgr ddylai eich plentyn fod yn ei fwyta?

Edrychwch ar y bwydydd hyn sydd â swm rhyfeddol o siwgr ynddynt!

Gall bwydydd fel bisgedi, cacennau a grawnfwydydd brecwast hefyd gynnwys llawer o siwgr!

 

Sut allwch chi leihau’r siwgr rydych chi’n ei fwyta?

Yfwch un gwydraid o sudd y dydd (125ml) yn unig.

Paratowch eich byrbrydau eich hun gartref. Am syniadau ar gyfer byrbrydau, cliciwch yma!

Osgowch yfed diodydd sy’n llawn siwgr. Yfwch ddŵr neu laeth yn eu lle! Gall oedolion hefyd yfed te neu goffi yn eu lle!

Ychwanegwch ffrwythau at eich byrbryd i gael blas ychwanegol! Gallech ychwanegu ffrwythau wedi’u torri at eich iogwrt neu ychwanegu banana wedi’i sleisio at eich tost.

 

Am ragor o wybodaeth ac i gyfrifo faint o siwgr mae eich plentyn yn ei fwyta – CLICIWCH YMA!