Syniadau ar gyfer cadw’n egnïol
Gall cadw’r teulu’n egnïol fod yn anodd, yn enwedig yn y glaw!
Oeddech chi’n gwybod bod angen i blant 5 i 18 oed fod yn gorfforol weithgar am 60 munud y dydd?
Dylai plant hefyd gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymarfer corff sy’n helpu i ddatblygu sgiliau symud, cyhyrau ac esgyrn. Dylai plant geisio lledaenu gweithgarwch drwy gydol y dydd i helpu i leihau’r amser a dreulir yn eistedd neu’n gorwedd.
Edrychwch ar y syniadau hyn ar gyfer chwarae egnïol a gweithgareddau ar ddiwrnod glawog!
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth, syniadau a gemau yma!