Teuluoedd yn Gyntaf

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu a chefnogi teuluoedd sy’n wynebu anawsterau drwy systemau a chymorth amlasiantaeth effeithiol.

 

Mae’r tîm Teuluoedd yn Gyntaf ym Mlaenau Gwent yn cynnig gwahanol fathau o gymorth i bob teulu yn dibynnu ar eu hangen penodol, gyda phwyslais clir ar atal ac ymyrraeth gynnar i deuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi.

 

Mae Teuluoedd yn Gyntaf hefyd yn cynnig cymorth i blant a theuluoedd sydd â phlant ag anghenion ychwanegol.

 

Mae’r tîm yn rhedeg clwb ieuenctid cynhwysol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed. Cynhelir y clwb hwn yn Ysgol Pen-y-cwm, bob dydd Mawrth rhwng 3.30pm a 5.30pm. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â Thomas Brain yn: Thomas.Brain@blaenau-gwent.gov.uk. Cewch wybod mwy yma.

 

Mae Teuluoedd yn Gyntaf hefyd yn cynnal grŵp cymorth ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd â phlant ag anghenion ychwanegol. Cewch wybod mwy yma.

 

Am ragor o gefnogaeth, gallwch gysylltu â’r tîm fel a ganlyn: 01495 369621