Dechrau’n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed mewn rhannau difreintiedig o Gymru.

Mae’r cymorth yn cynnwys:

  • gofal plant ansawdd uchel a ariennir, rhan-amser (12.5 awr yr wythnos) ar gyfer plant 2 i 3 oed

  • gwell gwasanaeth gan ymwelwyr iechyd

  • cymorth magu plant

  • cymorth i blant i ddysgu siarad a chyfathrebu

Darganfyddwch fwy am Dechrau’n Deg yma: Rhaglen Dechrau'n Deg | LLYW.CYMRU

Ddim yn siŵr os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg? Anfonwch e-bost atom yn: FIS@Blaenau-Gwent.Gov.UK