Teuluoedd Iachach
Bwyta’n dda
Mae deiet cytbwys yn bwysig i bawb ond, yn arbennig, mae’n cefnogi twf a datblygiad iach mewn plant. Mae hefyd yn helpu wrth wella o salwch neu anaf.
Mae annog eich plentyn i fwyta amrywiaeth eang o fwydydd yn dylanwadu ar arferion bwyd iach pan fyddant yn hŷn.
Mae’n bwysig cofio nad oes bwydydd da na drwg. Cydbwysedd cyffredinol deiet yw’r hyn sy’n cyfrif a chael y cyfrannau cywir.
Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau ar sut i gefnogi iechyd eich teulu, ewch i:
Syniadau ar gyfer Amser Pryd a Byrbrydau
Dewch o hyd i amrywiaeth o ryseitiau iach yma:
Siwgr
Oeddech chi’n gwybod bod llawer o blant yn cael dros ddwywaith yn fwy o siwgr nag a argymhellir ar eu cyfer?
Gall gwneud dewisiadau iachach fod yn heriol i rieni. Edrychwch ar yr wybodaeth isod i’ch helpu i wneud y dewisiadau hynny:
Halen
Did you know most people eat too much salt every day?
It is recommended that adults do not consume more than 6 grams of salt – this is less than one teaspoon!
Am ragor o wybodaeth am faint o halen i’w fwyta ac awgrymiadau i leihau faint mae eich teulu’n ei fwyta, ewch i: Reduce salt - Food facts - Healthier Families - NHS
Syniadau ar gyfer cadw’n egnïol
Oeddech chi’n gwybod bod angen i blant 5 i 18 oed fod yn gorfforol weithgar am 60 munud y dydd?
Dylai plant hefyd gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymarfer corff sy’n helpu i ddatblygu sgiliau symud, cyhyrau ac esgyrn. Dylai plant geisio lledaenu gweithgarwch drwy gydol y dydd i helpu i leihau’r amser a dreulir yn eistedd neu’n gorwedd.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth, syniadau a gemau yma:
Free indoor activities for kids – Healthier Families - NHS
Cymorth iechyd meddwl
Meic For Young People & Children
Mae Meic yn llinell gymorth i blant a phobl ifanc.
Gallwch eu ffonio neu anfon neges WhatsApp atynt ar 080 880 23456.
Maen nhw ar agor o 8am tan hanner nos bob dydd.
Gall plant 11-19 oed gysylltu â thîm nyrsio’r ysgol am gymorth a chyngor cyfrinachol.
Gallwch anfon neges destun atynt ar 07312 263 262.
Bydd negeseuon testun yn cael eu hateb o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30am a 4.30pm.
Mae The Mix yn darparu cymorth iechyd meddwl hanfodol i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Tecstiwch ‘THEMIX’ I 85258 am gymorth.
Campaign Against Living Miserably.
Mae CALM yn rhedeg llinell gymorth atal hunanladdiad i gefnogi pobl mewn angen. Gallwch ffonio os ydych chi’n cael trafferth eich hun, os ydych wedi colli rhywun i hunanladdiad neu os ydych chi’n poeni am rywun.
Mae’r llinell gymorth ar agor o 5pm tan hanner nos bob dydd.
Ffoniwch 0800 58 58 58.
Ar Agor i Unrhyw Un
Mae llinell gymorth C.A.L.L. yn cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth am iechyd meddwl. Gall llinell gymorth C.A.L.L. gefnogi unrhyw un sydd angen cymorth gyda’i iechyd meddwl ei hun neu sy’n poeni am iechyd meddwl rhywun arall.
Gallwch ffonio’r llinell gymorth ar 0800 132 737, 24 awr y dydd.
Ar Agor i Unrhyw Un
Mae’r Samariaid yn cynnig llinell gymorth am ddim i gefnogi unrhyw un sy’n cael trafferth.
Gallwch eu ffonio unrhyw bryd ar 116 123.
Os yw’n well gennych, gallwch hefyd anfon e-bost atynt yn jo@samaritans.org (gall gymryd ychydig ddyddiau i dderbyn ymateb).
Ar Agor i Unrhyw Un