Diddyfnu

Beth yw diddyfnu?

Mae cyflwyno eich babi i fwydydd solet, a elwir yn aml yn ddiddyfnu neu fwydo cyflenwol, fel arfer yn dechrau tua 6 mis oed.

Ar yr adeg hon, mae’n bwysig dechrau cynnig deiet amrywiol yn ychwanegol at eu llaeth arferol o’r fron neu laeth fformiwla gyntaf i fabanod. Gall gwybod pryd a sut i ddechrau fod yn llethol, ond mae amrywiaeth o gymorth ar gael drwy gydol y broses ddiddyfnu.

Gallwch ddod o hyd i gyngor arbenigol y GIG, fideos defnyddiol, awgrymiadau gan rieni eraill, a llawer o syniadau am ryseitiau a phrydau bwyd diddyfnu syml ac iach yma: Weaning - Best Start in Life - NHS

Os ydych chi’n chwilio am ryseitiau newydd i’w rhoi ar brawf gyda’ch bach, gallwch eu cael yma: Recipes and meal ideas - Best Start in Life - NHS