Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg – Ysgol Gymraeg Tregedar – Cyfle Tendr
Rydym yn falch o gyhoeddi cyfle tendr cyfrwng Cymraeg ar gyfer darparu gofal plant newydd o fewn Blaenau Gwent. Fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi teuluoedd a meithrin datblygiad plentyndod cynnar, rydym yn chwilio am gynigion gan fusnesau gofal plant lleol neu newydd i sefydlu neu ehangu, a all ddarparu gwasanaethau gofal plant o ansawdd uchel wedi’u teilwra i anghenion ein cymuned.
Trosolwg – Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg – Ysgol Gymraeg Tregedar
Gwasanaeth: Mae’r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg hon yn ddarpariaeth hollol newydd, o safon uchel, wedi’i hadeiladu’n bwrpasol, yn cynnig 28 lle. Mae’r cyfleusterau wedi’u cynllunio a’u cyfarparu’n ofalus i gefnogi darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel, sy’n amod allweddol o’r tendr hwn. Mae’r ddarpariaeth gofal plant wedi’i lleoli o fewn ysgol ar safle datblygu Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
Mae’r tendr hwn ar gyfer darparu gofal dydd, gwasanaeth ar ôl ysgol, darpariaeth blynyddoedd cynnar, Dechrau’n Deg a lleoedd Cynllun Gofal Plant. Mae’r ddarpariaeth wedi’i chynllunio i gynnig y gwasanaethau canlynol ar gyfer plant rhwng 2 – 12 oed.
Mae’r cyfle tendr hwn yn cynnig cyfle cyffrous i fusnes gofal plant lleol neu newydd i sefydlu neu ehangu, er mwyn ein helpu i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel mewn lleoliad o ansawdd uchel. Mae bron i £2 filiwn wedi’i fuddsoddi yn y ddarpariaeth.
Lleoliad:
Ysgol Gymraeg Tredegar,
Chartist Way,
Sirhowy,
Tredegar,
NP22 4PR
Cyfnod y Contract: 3 blynedd, adolygiad blynyddol
Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno: Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025
Gwahoddir partïon â diddordeb i ofyn am y dogfennau tendr llawn a chyflwyno eu cynigion yn unol â’r gofynion a nodwyd.
Gellir cael pecynnau tendr drwy’r ddolen isod:
https://etenderwales.ukp.app.jaggaer.com/
Cyfeirnod Bravo ar gyfer Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Ysgol Gymraeg Tredegar yw ITT-120707
Cyfeirnod Bravo Blaina yw ITT-120903
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cynnig a gweithio gyda’n gilydd i greu amgylchedd gofalgar a chyfoethog i blant o fewn Blaenau Gwent.