Chwarae
Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant ac mae wedi’i gynnwys yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Trwy chwarae, mae plant yn datblygu gwydnwch a hyblygrwydd, gan gyfrannu at les corfforol ac emosiynol.
Mae chwarae yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn yn cynnig ystod eang o fuddion ac mae’n hanfodol ar gyfer datblygiad plentyn cyflawn ar draws agweddau corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae’n cynnwys:
- Datblygiad Gwybyddol: Mae chwarae yn gwella sgiliau meddwl, datrys problemau a gwneud penderfyniadau trwy weithgareddau fel posau a chwarae dychmygus.
- Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol: Mae plant yn dysgu sut i rhyngweithio, rhannu a dangos empathi wrth feithrin perthnasoedd a deall emosiynau.
- Datblygiad Iaith: Mae chwarae yn annog cyfathrebu, gan ehangu geirfa a sgiliau iaith wrth i blant ryngweithio ac adrodd straeon.
- Datblygiad Corfforol: Mae chwarae corfforol, fel rhedeg a dringo, yn cefnogi sgiliau echddygol, cydsymud ac iechyd corfforol cyffredinol.
- Dychymyg a Chreadigrwydd: Mae cymryd rhan mewn chwarae llawn dychymyg ac adrodd straeon yn meithrin creadigrwydd a meddwl arloesol.
- Sgiliau Datrys Problemau: Mae chwarae’n ymwneud â goresgyn heriau, gan hyrwyddo’r gallu i addasu ac i ddatrys problemau.
- Hunanreoleiddio: Mae plant yn ymarfer rheoli ymddygiad, dilyn rheolau, ac ymdopi â rhwystredigaeth yn ystod chwarae.
- Hyder a Hunan-barch: Mae profiadau chwarae llwyddiannus yn hybu hyder a hunan-barch, wedi’u cefnogi gan adborth cadarnhaol.
- Dealltwriaeth Ddiwylliannol a Chymdeithasol: Mae chwarae yn amlygu plant i amrywiaeth, gan ehangu eu safbwyntiau ar ddiwylliannau a rolau.
- Ffurfio Cwlwm a Pherthnasoedd: Mae amser chwarae yn cryfhau clymau â gofalwyr, brodyr a chwiorydd a chyfoedion, gan greu ymdeimlad o berthyn.
- Lleddfu Straen: Mae chwarae’n darparu gollyngfa ar gyfer straen, gan helpu i leihau pryder a hybu lles emosiynol.
- Datblygiad yr Ymennydd: Mae chwarae yn ysgogi gwahanol ardaloedd yn yr ymennydd, gan wella creadigrwydd a sgiliau datrys problemau a phrosesu emosiynol.
Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae wedi ymrwymo i gyflwyno cyfleoedd a digwyddiadau chwarae i blant ledled Blaenau Gwent. Mae’r rhain yn cynnwys Plantos Bach Gwyllt (‘Wild Tots’) a Gwersylloedd Gwyllt, sesiynau chwarae mynediad agored yn ystod y gwyliau, a digwyddiadau dathlu fel Diwrnod Chwarae Cenedlaethol a Groto Siôn Corn, yn ogystal â chefnogi ysgolion a darparwyr gofal plant i ddarparu cyfleoedd chwarae yn eu sefydliadau.
I gael rhagor o wybodaeth am chwarae ym Mlaenau Gwent, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd fel a ganlyn: 01495 369610.