Arolygiaeth Gofal Cymru

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Mae’n cofrestru, yn arolygu ac yn gweithio gyda lleoliadau i wella ansawdd a diogelwch y gwasanaethau.

 

AGC yn rheoleiddio'r gwasanaethau canlynol:

Gwasanaethau Oedolion

cartrefi gofal i oedolion, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau lleoli oedolion a gwasanaethau canolfan breswyl i deuluoedd

Gwasanaethau Plant

cartrefi gofal i blant, gwasanaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau eirioli a gwasanaethau llety diogel 

  Gwasanaethau Gofal Plant a Chwarae

 gwarchodwyr plant, crèches, gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i'r ysgol a darpariaeth chwarae mynediad agored 

 

Ein Gwerthoedd Craidd

Gofalgar: rydym yn drugarog ac mae'n hawdd siarad â ni
Teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
Uniondeb: rydym yn onest a dibynadwy
Proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
Parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi

(Swyddfa Eiddo Deallusol © Hawlfraint y Goron 2024)

 

I gael rhagor o wybodaeth am Arolygiaeth Gofal Cymru, cliciwch yma.

Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan AGC i weld adroddiadau ar leoliadau gofal plant ym Mlaenau Gwent. Ewch i’r dudalen gartref a defnyddiwch y bar chwilio ar y dudalen i chwilio am y ddarpariaeth gofal plant neu’r gwarchodwr plant.