Mathau o ofal plant

Meithrinfeydd Dydd

Mae meithrinfeydd dydd yn darparu gofal i blant o’u genedigaeth ymlaen, naill ai am y diwrnod cyfan neu’n rhan amser. Mae llawer o feithrinfeydd dydd yn cynnig gwasanaeth cofleidiol i ddosbarthiadau meithrin mewn ysgolion yn ogystal â chynnig gofal plant cyn / ar ôl yr ysgol ac yn ystod y gwyliau i blant hŷn.

 

Cylchoedd Chwarae a Chylchoedd Meithrin

Mae cylchoedd chwarae yn bennaf yn gofalu am blant 2-4 oed, fel arfer am 2-3 awr yn y bore neu’r prynhawn, ac yn bennaf yn ystod y tymor. Mae cylchoedd meithrin yn gylchoedd chwarae cyfrwng Cymraeg sy’n rhoi cyfle i blant gael profiad o chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg; byddai hyn o fudd i’ch plentyn os ydych yn ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn, gan roi’r blaen iddo ar y ffordd i fod yn ddwyieithog.

 

Gwarchodwyr Plant

Mae gwarchodwyr plant yn ddarparwyr gofal plant sy’n gweithio yn eu cartrefi eu hunain i ddarparu amgylchedd diogel ac ysgogol i blant ddysgu a thyfu. Yn aml, maent yn darparu gwasanaeth cofleidiol i gylchoedd chwarae cyn ysgol, cylchoedd meithrin, a dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion.