Cynllun Gofal Plant Credyd Cynhwysol
Cynllun Gofal Plant Credyd Cynhwysol
Os ydych yn talu am ofal plant tra byddwch yn y gwaith, gall Credyd Cynhwysol dalu rhai o’ch costau gofal plant.
Mae’n rhaid i chi dalu eich costau gofal plant eich hun. Yna byddwch yn rhoi gwybod amdanynt i Gredyd Cynhwysol, ac mae Credyd Cynhwysol yn talu rhywfaint o’r arian yn ôl.
Gallwch gael hyd at 85% o gostau gofal plant wedi eu talu’n ôl i chi. Yr uchafswm y mis yw: £950.92 ar gyfer un plentyn neu £1,630.15 ar gyfer dau blentyn neu fwy.
I fod yn gymwys, mae angen i chi fod yn gwneud un o’r canlynol:
yn gweithio mewn swydd gyflogedig
yn dechrau swydd yn y mis nesaf
Os ydych yn byw gyda phartner, mae angen i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith cyflogedig, oni bai na all eich partner ofalu am eich plant.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwefan Llywodraeth y DU.