Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
Gallwch gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob un o’ch plant, i helpu gyda chostau gofal plant. Mae hyn yn codi i £1,000 bob 3 mis os yw plentyn yn anabl (hyd at £4,000 y flwyddyn).
Os ydych yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, byddwch yn creu cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer eich plentyn. Am bob £8 y byddwch yn ei dalu i’r cyfrif hwn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £2 i’w ddefnyddio i dalu’ch darparwr.
Gallwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar yr un pryd â 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gymwys i gael y ddau.
Rhaid i’ch plentyn fod yn 11 oed neu’n iau ac yn byw gyda chi fel arfer. Bydd yn peidio â bod yn gymwys o 1 Medi ar ôl ei ben-blwydd yn 11 oed.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gwirio eich cymhwystra yma.