Y Cynnig Gofal Plant

Y Cynnig Gofal Plant

O dan Gynnig Gofal Plant Cymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Bydd angen i bob rhiant sy’n dymuno derbyn gofal plant a ariennir gan Gynnig Gofal Plant Cymru wneud cais drwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn ddwyieithog a gellir ei gyrchu trwy liniadur, ffôn symudol neu lechen.

 

Wrth wneud cais, bydd angen:

Tystysgrif geni eich plentyn

Prawf o gyfeiriad

Prawf o incwm y cartref neu gofrestriad ar gwrs addysg uwch neu addysg bellach

 

I fod yn gymwys ar gyfer y cynnig, rhaid i bob rhiant fodloni’r amodau canlynol:

Byw yng Nghymru

Bod â phlentyn 3 neu 4 oed?

Ennill llai na £100,000 y flwyddyn?

Bod yn gyflogedig ac ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu gyflog byw?

Neu fod wedi’u cofrestru ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd.

 

Gallwch wirio a ydych yn gymwys yma.

 

Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys i wneud cais, gallwch wneud cais yma.

 

Os byddai’n well gennych siarad â rhywun am gymorth gyda’r Cynnig Gofal Plant, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth genedlaethol ar: 03000 628 628.