Y Daith Gymraeg

Wyddoch chi, gallwch chi ddechrau eich taith Gymraeg gyda’ch babi cyn gynted ag y caiff ei eni!

Bydd cyflwyno’r Gymraeg i’ch babi’n gynnar yn rhoi dechrau da i’ch plentyn wrth ddod yn ddwyieithog, yn helpu i roi ymdeimlad o berthyn i’ch plentyn, ac yn ei gwneud hi’n haws iddo ddysgu iaith arall! Gall dysgu Cymraeg yn ifanc hefyd gefnogi addysg eich plentyn yn y dyfodol. Mae plant dwyieithog yn tueddu i feddwl mewn ffordd fwy hyblyg a chreadigol, gallant fod yn well wrth ddadansoddi data ac amldasgio, a gallant ei chael hi’n haws dysgu ieithoedd ychwanegol yn y dyfodol! Gallai eich plentyn fod yn rhan o’r 43% o bobl ledled y byd sy’n ddwyieithog – neu’r 17% sy’n amlieithog (Preply, 2025).

Cymerwch olwg ar ein taith Gymraeg isod i weld sut y gallech chi gefnogi taith eich plentyn.

Welsh Journey

Peidiwch â phoeni os yw’ch plentyn ychydig yn hŷn; nid yw byth yn rhy hwyr i gefnogi eu taith.

 

0 i 18 Mis

Cymraeg i Blant

Ymunwch â Chymraeg i Blant ar gyfer grwpiau fel: Tylino Babi, Ioga Babi neu Arwyddo, Stori a Chân. Gallwch hefyd ymuno â grwpiau ar-lein fel ‘Fi a Fy Mabi’ a ‘Paned a Sgwrs’. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma. neu drwy chwilio am Cymraeg i Blant Blaenau Gwent ar Facebook.

 

0 i 4 Oed

Ti a Fi & Clwb Cwtch

Grwpiau Ti a Fi yw grwpiau galw heibio wythnosol i rieni a phlant bach. Maent yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd a dechrau datblygu eich iaith gyda’ch un bach. Mae’r grwpiau hyn ar agor i unrhyw un, ni waeth pa lefel o Gymraeg maen nhw’n ei siarad! Rydym ni’n ffodus iawn ym Mlaenau Gwent i gael cyfoeth o grwpiau Ti a Fi. Gallwch ddod o hyd i’r holl grwpiau hyn ar ein gwefan.

Cwrs blasu Cymraeg wyth wythnos yw Clwb Cwtsh i ddarpar rieni, rhieni, gofalwyr ac aelodau o’r teulu estynedig. Gallwch ddysgu mwy am y cwrs hwn yma.

 

2 i 4 Oed

Cylch Meithrin

Mae cylchoedd meithrin yn lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg sy’n darparu addysg blynyddoedd cynnar i blant o ddwy oed hyd at oedran ysgol, gan hyrwyddo datblygiad trwy chwarae mewn amgylchedd Cymraeg ei iaith. Maent yn helpu plant i ddod yn ddwyieithog wrth fwynhau rhyngweithio cymdeithasol a phrofiadau dysgu o safon. Nid oes rhaid i’ch plentyn siarad Cymraeg i ymuno â chylch meithrin; bydd y staff anhygoel yn cefnogi pob plentyn, ni waeth beth yw eu lefel iaith. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o ddarpariaethau cyfrwng Cymraeg ar ein gwefan. Mae’r holl ddarpariaethau hefyd ar gael i deuluoedd Dechrau’n Deg!

 

4+ Oed

Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghymru yn darparu addysg yn bennaf drwy’r Gymraeg, gyda’r nod o ddatblygu hyfedredd dwyieithog mewn disgyblion. Maent yn hyrwyddo diwylliant Cymru a hunaniaeth Gymreig, gan sicrhau y gall dysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn cyd-destunau academaidd a beunyddiol. Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynnig cyfle i blant ddod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan wella eu sgiliau gwybyddol a’u galluoedd cyfathrebu. Mae’n cefnogi pontio addysgol llyfnach, yn gwella rhagolygon gyrfa yn y dyfodol, ac yn meithrin cysylltiad cryf â diwylliant Cymru a hunaniaeth Gymreig. Gallwch ddysgu mwy am gefnogi taith ddwyieithog eich plentyn yma.