ERIC – Elusen Coluddyn a Phledren Plant
Mae ERIC yn elusen genedlaethol sy’n ymroddedig i wella iechyd y coluddyn a’r bledren ymhlith plant. Mae’n rhoi cyngor ar amrywiaeth o bynciau gwahanol sy’n ymwneud ag iechyd y coluddyn a’r bledren ymhlith plant a’i nod yw lleihau effaith problemau ymataliaeth ar deuluoedd ledled y DU.
Ar ei gwefan, gallwch ddod o hyd i gyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:
Hyfforddiant poti i blant ag anghenion dysgu ychwanegol
Gorbryder o ran mynd i’r toiled
Os oes angen rhagor o gyngor arnoch, gallwch gysylltu â llinell gymorth bwrpasol ERIC ar 0808 801 0343. Mae cynghorwyr hyfforddedig yr elusen ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 10am a 2pm.
Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy ei chyfryngau cymdeithasol:
Facebook @ ERIC UK
X @ERIC_UK