Budd-daliadau

Gallwch ddarganfod pa fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w cael trwy ddefnyddio’r Gyfrifiannell Budd-daliadau ar-lein. Mae bob amser yn werth gwirio i weld a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau ychwanegol nad ydych yn eu hawlio eisoes.

Os oes angen i chi siarad â rhywun am wneud cais am fudd-daliadau neu drafod y budd-daliadau rydych yn eu derbyn ar hyn o bryd, gallwch gysylltu â’r tîm Budd-daliadau ar 01495 311556.

Yn ogystal, gallwch hefyd siarad â Llinell Gymorth Budd-daliadau Cyngor ar Bopeth ar 0800 702 2020.