Prydau Ysgol am Ddim
Mae gan holl ddisgyblion ysgol y Cyfnod Sylfaen ym Mlaenau Gwent, o’r dosbarth derbyn ymlaen (gan gynnwys plant meithrin amser llawn), hawl i brydau ysgol am ddim bob dydd erbyn hyn.
Os yw eich plentyn yng Nghyfnod Allweddol 2 – Cyfnod Allweddol 4, efallai y bydd gennych hawl i brydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r canlynol:
Cymhorthdal Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
Cymorth o dan Ran VI o Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
Credyd Treth Plant (gydag incwm blynyddol o lai na £16,190)
Elfen credyd gwarant Credyd Pensiwn
Credyd Cynhwysol gydag incwm cartref net o lai na £7,400 (£616.67 y mis)
Gallwch wneud cais drwy gysylltu â’r tîm Budd-daliadau ar 01495 311556.