Diwrnod Chwarae 2024
Ar 7 Awst 2024, croesawodd ein tîm chwarae gwych dros fil o bobl i Dy a Pharc Bedwellte
ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Cynhaliodd y tîm chwarae ddigwyddiad anhygoel gyda chwarae blêr, llithro a sleidio, celf a chrefft, Wild Tots, a llawer mwy! Ymunodd rhai wasanaethau anhygoel â ni hefyd a oedd yn gallu hyrwyddo eu hunain o fewn y gymuned. Rydym hefyd am ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad gan na fyddai’r digwyddiadau hyn yn bosibl heb yr holl bobl sy’n eu cefnogi.
Ochr yn ochr â Diwrnod Chwarae, mae ein tîm chwarae wedi bod yn hynod o brysur gyda llawer o sesiynau chwarae eraill! Drwy gydol yr haf, cyflwynodd ein tîm (gan gynnwys 20 o wirfoddolwyr chwarae) raglen chwarae chwe wythnos yn ystod gwyliau’r haf. Yn syfrdanol, roedd hon yn cynnwys 41 o sesiynau chwarae mynediad agored ac 11 sesiwn Wild Tots ar draws 13 lleoliad gwahanol ym Mlaenau Gwent! Roedd y tîm chwarae hefyd yn gallu darparu amrywiaeth o fyrbrydau ym mhob sesiwn, gan gynnwys brechdanau, ffrwythau ffres, bariau grawnfwyd a dwr potel. Roeddent hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau yn y sesiynau hyn, gan gynnwys sesiynau thema gyda gemau, celf a chrefft, chwarae tywod a dwr, chwarae anniben, maes chwarae dychymyg, a chwaraeon.
Yn olaf, rydym eisiau dweud Diolch enfawr i’n gwirfoddolwyr chwarae anhygoel. Ni fyddem yn gallu cynnal cymaint o sesiynau anhygoel dros yr haf heb i’r bobl anhygoel hyn roi o’u hamser eu hunain!