Apêl Anrhegion Nadolig

Eleni bydd ein Hapêl Anrhegion Nadolig ychydig yn wahanol.

 

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn? Ffoniwch neu e-bostiwch ni heddiw, a byddwn yn eich paru â phlentyn mewn angen ynghyd â rhoi rhai syniadau call am anrhegion!

 

Gwell rhoi? Gwerthfawrogir eich cyfraniadau ariannol yn fawr hefyd a byddant yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein hapêl.

 

Cwestiynnau Cyffredin

Sut mae cymryd rhan yn Apêl y Nadolig?

Ffoniwch neu e-bostiwch ein swyddog yn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01495 369610 neu FIS@Blaenau-Gwent.gov.uk. Yna bydd yn rhoi rhif cod i chi, ac oedran a rhyw’r plentyn, a rhoi gwybod i chi am yr hyn y mae’r plentyn wedi gofyn amdano. Unwaith y byddwch wedi prynu’ch anrhegion, rhowch nhw mewn bag anrheg a dewch â nhw i Ganolfan Integredig i Blant Blaenau gyda’r cod ar y bag.

 

A allaf gefnogi’r apêl heb orfod mynd i siopa?

Gallwch! Rydym yn deall nad yw pawb yn gallu cyrraedd y siopau felly rydym hefyd yn derbyn rhoddion arian parod. Rhowch alwad i ni ar 01495 311556 i wneud cyfraniad!

 

Oes angen i mi lapio’r anrhegion?

Peidiwch â lapio’r anrhegion. Bydd angen i’n tîm wirio pob bag wrth iddynt ddod i mewn ac rydym wrth ein bodd yn rhoi cyfle i’r rhieni lapio’r anrhegion eu hunain.

 

Ble ydw i’n cyflwyno’r anrhegion?

Rhaid gollwng pob anrheg yng Nghanolfan Integredig i Blant Blaenau. Sicrhewch fod eich bag anrheg wedi’i labelu gyda’r cod a roddwyd i chi. Os na allwch gofio hwn, rhowch alwad i ni a byddwn yn hapus i ddod o hyd iddo i chi!

 

Pa anrhegion y dylwn i eu prynu?

Gofynnwn i bob anrheg fod yn newydd a bod y label/tagiau ynghlwm wrthi o hyd. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod pob anrheg yn ddiogel i’r plentyn y mae’n mynd iddo. Pan fyddwch yn ein ffonio, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth mae’r plentyn wedi gofyn amdano. Bydd hyn yn rhoi rhai syniadau i chi o beth i’w brynu!

 

Sut alla i wneud rhodd arian parod?

I wneud cyfraniad ariannol, ffoniwch 01495 311556 a dywedwch eich bod am wneud cyfraniad i Apêl y Nadolig!