Dechrau’n Deg
Beth yw Dechrau’n Deg?
Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu gwasanaethau cymorth dwys i deuluoedd â phlant rhwng 0 a 3 oed sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru.
Mae tîm Dechrau’n Deg Blaenau Gwent yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn cynnig anogaeth, gwybodaeth ac arweiniad i gefnogi rhieni/gofalwyr ar bob cam o ddatblygiad eu plentyn, gan ddarparu cyfleoedd, gweithgareddau a rhaglenni am ddim i alluogi pob plentyn i ddatblygu ei sgiliau iaith a chymdeithasol a’i ddatblygiad emosiynol a chorfforol er mwyn bod yn barod i ddechrau yn yr ysgol.
Yr hyn y mae Dechrau’n Deg yn ei olygu’n ymarferol:
Mae pedair elfen graidd i’r rhaglen Dechrau’n Deg sydd wedi’u tynnu o amrywiaeth o opsiynau y dangoswyd eu bod yn dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol i blant a’u teuluoedd.
1. Gwasanaeth ymwelwyr iechyd gwell
Mae ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn darparu gwasanaeth ymwelwyr iechyd dwys i bob teulu cymwys a, gyda chymorth gweithwyr cymorth iechyd i deuluoedd, mae ganddynt y gallu i ymweld â theuluoedd yn amlach a darparu cymorth un i un yn y cartref.
Yn ddiweddar, mae Dechrau’n Deg wedi cyflwyno rhaglenni a gwasanaethau cynenedigol newydd, gyda’r nod o gysylltu â phob mam feichiog sy’n mynychu ein clinig bwcio cyn geni. Mae cyswllt cynnar o’r fath yn hybu iechyd a lles y fam a’r plentyn yn ystod beichiogrwydd a thu hwnt. Mae pob teulu Dechrau’n Deg yn cael ei gefnogi i ddatblygu a ffurfio cwlwm gyda’u babi, gan gefnogi’r ddau riant gyda’u hiechyd emosiynol a meddyliol. Mae Dechrau’n Deg yn darparu clinigau babanod sy’n hygyrch i bobl leol, yn hybu imiwneiddio, ac yn rhoi cyngor cyffredinol ar iechyd babanod, gan gynnwys ar fwydo ar y fron, diddyfnu, creu arferion a phatrymau cysgu.
Mae cyrsiau tylino babanod ar gael, sy’n hysbysu rhieni am ffurfio cwlwm gyda’u babanod a chreu ymlyniad, a all helpu i dawelu babi yn ystod salwch neu wrth iddo dorri ei dannedd a thyfu’n gyffredinol. Mae’r gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn parhau hyd at bedair oed, pan fydd y cyfrifoldeb dros ofal iechyd y plentyn yn cael ei drosglwyddo i’r nyrs ysgol pan fydd yn dechrau yn yr ysgol.
2. Mynediad at raglenni magu plant
Mae rhieni sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn cael eu cefnogi ymhellach trwy gael y cyfle i fynychu ystod o raglenni magu plant sydd â’r nod o roi’r sgiliau iddynt fagu plant yn effeithiol. Mae rhai cyrsiau yn arbennig ar gyfer rhieni newydd sydd â babanod newydd-anedig i annog ymlyniad a ffurfio cwlwm â’r baban.
Wrth i blant dyfu ymhellach, mae rhaglenni ar gael sy’n meithrin hyder rhieni i ddeall ymddygiad plant, gan hyrwyddo rhianta cadarnhaol a chreu dulliau cadarnhaol o feithrin perthnasoedd iach â’u plant. Mae rhai o’r rhaglenni sydd ar gael yn cynnwys:
- Rhaglen Cyn Geni Cysylltiadau Teuluol: “Croeso i’r Byd” – yn cefnogi rhieni newydd gyda rhai o’r anawsterau y gallent eu profi ac yn eu cefnogi i ddod i adnabod eu babi newydd
- Rhaglen i Fabanod GroBrain – ar gyfer rhieni newydd â babanod newydd-anedig a phlant hyd at 12 mis oed
- Rhaglen i Blant Bach GroBrain – i rieni ddysgu sut i sgaffaldio datblygiad emosiynol eu plant ac annog datblygiad ieithyddol, cymdeithasol a chorfforol
- Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant – yn cefnogi teuluoedd i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, cyfathrebu, a rheoli ymddygiad yn gadarnhaol o fewn y teulu
- Mae Anturiaethwyr Bach yn cynnig amrywiaeth o raglenni pwrpasol sydd ar gael mewn canolfannau Dechrau’n Deg lleol neu drwy gyflenwi gartref, gan gynnig cymorth sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion pob teulu
- Mae rhaglen Circle of Security yn cefnogi rhieni a gofalwyr i’w helpu i wneud y canlynol:
Deall byd emosiynol eu plentyn trwy ddysgu darllen anghenion emosiynol
Cefnogi gallu eu plentyn i reoli emosiynau yn llwyddiannus
Gwella datblygiad hunan-barch eu plentyn
Parchu’r doethineb ac awydd cynhenid i’w plentyn fod yn ddiogel
Mae gwahanol weithdai, rhaglenni magu plant a sesiynau hefyd ar gael i rieni Dechrau’n Deg a gallant fod yn fuddiol iawn. Mae’r rhain yn cynnwys:
Tylino babanod
Elklan – dewch i ni siarad â’ch babi
Chwarae a datblygiad
Grŵp rhieni a phlant bach
Camau Bach
Meithrin hyder
Chwalu straen
Perthynas rhwng rhieni
Bwyta’n iach, coginio a diddyfnu ar gyllideb
Pecyn cymorth ACES – archwilio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
3. Cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu
Rhieni yw athro cyntaf babi a phlentyn ifanc.
Mae Dechrau’n Deg yn cefnogi rhieni i feithrin amgylchedd sy’n llawn iaith a chyfleoedd cyfathrebu er mwyn gwella datblygiad cynnar plant ym meysydd lleferydd, iaith a chyfathrebu ac wrth ddysgu siarad. Mae’r blynyddoedd o enedigaeth i dair oed yn hanfodol i ddatblygu angen cynyddol plentyn ifanc i gyfathrebu.
Mae tystiolaeth yn dangos bod gallu lleferydd, iaith a chyfathrebu yn rhagfynegydd pwysig o gynnydd diweddarach mewn llythrennedd a’i fod yn cael effaith ar sgiliau cymdeithasol yn ogystal ag ymddygiad plant a’u parodrwydd ar gyfer yr ysgol.
Ym Mlaenau Gwent, rydym yn cynnig ystod o raglenni a gwasanaethau trwy ein tîm o weithwyr iaith cynnar i nodi anghenion, darparu cymorth, a hyrwyddo lleferydd, iaith a chyfathrebu cadarnhaol o fewn teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
Iaith a chwarae cyn geni – i roi dealltwriaeth i ddarpar rieni o sut i gyfathrebu â’u babi cyn ei eni, yn ogystal ag amryw o sgiliau i gefnogi datblygiad addysgol cynnar eu plentyn o’r diwrnod y caiff ei eni.
‘Dewch i ni siarad â’ch babi’ Elklan – ar gyfer rhieni â babanod 3-12 mis oed, gan ddarparu amgylchedd llawn cyfathrebu trwy weithgareddau rhyngweithiol a hwyliog.
Talking Tots – â’r nod o gyflwyno strategaethau datblygu iaith ac arddulliau rhyngweithio i rieni sy’n cefnogi plant ag oedi gyda lleferydd, iaith a chyfathrebu.
‘Dewich i ni siarad â phlant dan 5’ Elklan – â’r nod o roi cyfleoedd i rieni a gofalwyr drafod syniadau i helpu eu plant i ddysgu gwrando, deall a siarad, yn ogystal â darparu gwybodaeth am ddatblygiad lleferydd ac iaith nodweddiadol ac anawsterau cyfathrebu y gall plant eu profi.
Therapyddion lleferydd ac iaith Dechrau’n Deg – ar gael i gefnogi teuluoedd a’u plant ar sail un i un yn eu cartrefi neu fel rhan o sesiwn grŵp lle mae plant wedi’u nodi fel rhai ag oedi datblygiadol neu iaith. Yn aml iawn, gall plant ddod yn rhwystredig os oes ganddyn nhw broblemau lleferydd ac iaith ond gall gwneud rhai newidiadau eu helpu i wneud llawer o gynnydd.
4. Gofal plant rhan-amser o safon am ddim i blant 2-3 oed
Mae gan blant sy’n byw mewn eiddo cymwys (yn dibynnu ar y cod post) o fewn ardaloedd Dechrau’n Deg hawl i ofal plant rhan-amser am ddim am 2.5 awr y dydd (12.5 awr yr wythnos), o ddydd Llun i ddydd Gwener, am 42 wythnos y flwyddyn.
Mae athro ymgynghorol Dechrau’n Deg ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn gweithio gyda phob lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yn y fwrdeistref sirol i ddatblygu gweithgareddau a chynlluniau cwricwlwm addas a fydd yn ysgogi datblygiad plant dwy oed. Mae’r pwyslais ar osod safonau sy’n cynhyrchu darpariaeth gofal plant o safon ar draws pob un o’r 11 lleoliad gofal plant.
I’r teuluoedd hynny sydd angen cymorth ond nad ydynt yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, mae opsiwn allgymorth Dechrau’n Deg ar gael i sicrhau cydraddoldeb o ran darpariaeth gwasanaeth ar draws y fwrdeistref.