Ap Healthier Together y GIG

Mae ap Healthier Together y GIG wedi’i gynllunio i’ch galluogi chi i gael mynediad i ofal ar gyfer eich plentyn yn llawer haws. Os yw’ch plentyn yn sâl a bod angen iddo gael ei weld gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, yn lle gorfod ffonio’ch meddygfa, byddwch yn gallu defnyddio’r ap i hysbysu’ch meddyg teulu yn uniongyrchol am symptomau eich plentyn.