Bwyta’n Iach i Blant dan 5 Oed
Mae angen i fabanod a phlant bach fwyta deiet amrywiol hefyd – yn union fel gweddill y teulu!
Dyma rai o’r bwydydd allweddol y dylai eich plentyn bach fod yn eu cael:
Ffrwythau a llysiau
Bara, reis, tatws, pasta, a bwydydd eraill â starts
Llaeth, cynhyrchion llaeth ac amnewidion llaeth
Caws
Ffa, codlysiau, pysgod, wyau, cig, a phroteinau eraill
Bydd darparu deiet amrywiol sy’n targedu’r grwpiau bwyd hyn yn sicrhau bod eich plentyn yn cael digon o’r canlynol:
fitaminau
mwynau
ffeibr
egni
protein
calsiwm
haearn
Dyma rai o’r bwydydd y mae angen llai ohonynt ar eich plentyn bach:
- Siwgr
Mae’n bwysig cadw’r siwgr ychwanegol yn neiet eich plentyn yn isel er mwyn helpu i atal pydredd dannedd
- Halen
Nid oes angen i chi ychwanegu halen at fwyd eich plentyn oherwydd bod gan y rhan fwyaf o fwydydd ddigon eisoes
Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o fwyd i’w cynnig i’ch plentyn a sut i helpu i leihau rhai eraill yma
Os oes angen rhywfaint o ysbrydoliaeth arnoch i’ch helpu i goginio bwyd iach a blasus i’ch plentyn, rhowch gynnig ar y syniadau prydau hyn.