Diddyfnu

Beth yw diddyfnu?

 

Mae cyflwyno eich babi i fwydydd solet, a elwir yn aml yn ddiddyfnu neu fwydo cyflenwol, fel arfer yn dechrau tua 6 mis oed.

Ar yr adeg hon, mae’n bwysig dechrau cynnig deiet amrywiol yn ychwanegol at eu llaeth arferol o’r fron neu laeth fformiwla gyntaf i fabanod. Gall gwybod pryd a sut i ddechrau fod yn llethol, ond mae amrywiaeth o gymorth ar gael drwy gydol y broses ddiddyfnu.

Gallwch ddod o hyd i gyngor arbenigol y GIG, fideos defnyddiol, awgrymiadau gan rieni eraill, a llawer o syniadau am ryseitiau a phrydau bwyd diddyfnu syml ac iach yma.

 

If you’re on the lookout for new recipes to try with your little one; you can find them here