Lluosi

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio rhaglen gwerth £560 miliwn i helpu i drawsnewid bywydau pobl ledled y DU. Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi derbyn cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gefnogi datblygiad rhifedd ymhlith oedolion ar draws y sir.

 

Mae rhifedd yn golygu gallu defnyddio mathemateg yn gymwys yn eich bywyd bob dydd, gartref, ac yn y gwaith. Mae’n cynnwys rheoli arian gartref, helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref, deall ystadegau yn y newyddion, a gwella sgiliau mathemateg sy’n gysylltiedig â gwaith.

 

Gall gwella sgiliau rhifedd gynyddu’r tebygolrwydd o gyflogaeth, cyflogau uwch, a llesiant gwell. Mae hefyd yn agor drysau i fwy o gyfleoedd hyfforddi, gan baratoi’r ffordd ar gyfer sicrhau swydd fedrus â chyflog uwch!

 

Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw oedolion (16+) sy’n byw ym Mlaenau Gwent. Nod y cyrsiau hyn yw cynyddu eich hyder, eich helpu i ddeall mathemateg yn eich bywyd bob dydd, a hyd yn oed eich helpu i ddeall sut i gefnogi taith fathemategol eich plentyn!

 

Mae pob un o’n cyrsiau yn rhydd rhag barn ac yma i gefnogi’r dysgwyr yn y ffordd orau y gallant. Dewiswch o amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys:

Gwneud i Hyder Gyfrif

Fy Rhifau Cyntaf

Mesur ar gyfer Coginio

Rydym yn gobeithio cyhoeddi mwy dros y misoedd nesaf!

 

Cyrsiau i Ddod:

Datblygiad a Thwf plant @ Sirhywi (OEDOLION YN UNIG)

Gwnewh Eich Hun @ Cefn Golau (OEDOLION YN UNIG)

Gwneud I Hyder Gyfrif @ Abertyleri & Garnlydan (OEDOLION YN UNIG)

Mesur ad Gyfer Coginio @ Hilltop (OEDOLION YN UNIG)

Fy Rhifau Cyntaf @ Swffryd 

 

I gadw lle ar unrhyw un o’n cyrsiau, ewch i: www.ticketsource.co.uk/blaenau-gwent-council

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01495 355342 neu 07484039573. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom yn multiply.info@blaenau-gwent.gov.uk.